Gydag wythnos i fynd tan etholiad y Senedd, daeth Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth ar ymweliad i Arberth.
Mae'r polau piniwn yn dangos ei bod hi'n ras dau geffyl rhwng Plaid Cymru a Reform UK. Bydd pob pleidlais dros Blaid Cymru yn sicrhau llais cryf i Sir Benfro a Cheredigion. Dyma'r unig ffordd i ddisodli Llafur ag atal Reform rhag ffurfio llywodraeth nesaf Cymru.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru:
‘Mae’n braf bod yn Arberth heddiw. Gyda dim ond ychydig ddyddiau tan yr etholiad ddydd Iau nesaf, alla i ddim pwysleisio digon pa mor bwysig yw hi bod trigolion Ceredigion a Sir Benfro yn pleidleisio dros Blaid Cymru. Gallwn o’r diwedd ddisodli Llafur mewn llywodraeth ar ôl 27 mlynedd a chanolbwyntio ar wella ein gwasanaethau cyhoeddus ac adeiladu ein heconomi dros pob rhan o Gymru.’
Dywedodd Elin Jones, Prif Ymgeisydd Plaid Cymru Ceredigion Penfro:
‘Mae presenoldeb Rhun yma yn Arberth yn ein hatgoffa o bwysigrwydd defnyddio ein lleisiau drwy bleidleisio ddydd Iau. Rwyf wedi gwasanaethu Ceredigion am yr 20 mlynedd diwethaf, ac wedi ymladd yn erbyn canoli gwasanaethau iechyd. Byddaf yn parhau i wneud hynny ar gyfer Ysbytai Bronglais a Llwynhelyg os caf fy ail-ethol. Hyd yn oed os nad ydych erioed wedi pleidleisio dros Blaid Cymru o’r blaen, bydd pleidlais i’r Blaid yn yr etholiad yma yn disodli Llafur, curo Reform ac yn ethol arweiniad newydd bositif i Gymru.’