Amddiffyn Gwasanaeth Strôc Bronglais

Amddiffyn Gwasanaeth Strôc Bronglais

Mae Elin Jones eisoes wedi datgan yn gyhoeddus ei gwrthwynebiad i’r model ‘trin a throsglwyddo’ mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cynnig yn ei Adolygiad o Wasanaethau Clinigol, ac mae Plaid Cymru Ceredigion Penfro hefyd yn cefnogi’r ymgyrch i gynnal gwasanaethau strôc lawn ym Mronglais.

Mae naw o wasanaethau’n cael eu hadolygu fel rhan o Gynllun Gwasanaethau Clinigol y Bwrdd Iechyd, ac mi oedd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun ar agor tan y 31 o Awst 2025.

Beth yw’r perygl i wasanaethau strôc Bronglais?

Ar hyn o bryd mae Bronglais yn gweithredu gwasanaeth llawn o fewn yr uned strôc. Mae’r ddau opsiwn a gynigiwyd gan y Bwrdd Iechyd yn cadw'r driniaeth frys gychwynnol, ond yna yn cynnig trosglwyddo cleifion i ysbyty arall o fewn ardal Hywel Dda, naill ai Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli, neu Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Pam fod hyn yn broblem?

Mae ysbyty Bronglais dros 65 milltir i ffwrdd o Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli. Byddai hyn yn golygu taith o leiaf ddwy awr o hyd i deuluoedd allu ymweld â'u hanwyliaid sydd wedi cael strôc. Hefyd, mae mynediad at drosglwyddiad yn broblem enfawr yma - mae cleifion wedi dweud eu bod wedi aros dyddiau neu hyd yn oed wythnosau am wely neu drosglwyddiad ambiwlans ar gyfer gofal arbenigol mewn ysbytai eraill.

Nid oes unrhyw sôn yn yr ymgynghoriad am sut y bydd hyn yn wahanol i gleifion strôc - a does dim manylion am drosglwyddo cleifion.

Beth allwn ni ei wneud i gadw gwasanaethau ym Mronglais?

Gallwch arwyddo deiseb i'r Senedd - unwaith bydd 10,000 o lofnodion iddo, bydd yn cael ei drafod ar lawr y Senedd.

Mae hefyd grŵp ymgyrch wedi ei sefydlu: Protect Bronglais Services