Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi bod yn ymgynghori ar newid gwasanaethau ysbytai, a bu ymateb cyhoeddus cryf yn erbyn rhai o’r cynigion, yn enwedig ynglŷn â chael gwared ar lawdriniaeth gyffredinol frys yn Ysbyty Llwynhelyg.
Mae Elin Jones AS yn credu’n gryf dylid cadw gwasanaethau’n lleol: “Mae ysbyty Llwynhelyg yn gwasanaethu cymuned wledig. Heb y gallu i ymgymryd â llawdriniaeth gyffredinol frys, bydd bywydau cleifion mewn perygl. Gwyddom o brofiad fod y gwasanaeth ambiwlans eisoes o dan bwysau, a bod daearyddiaeth yn rhwystr wrth drosglwyddo cleifion i ysbyty arall, pan fo pob munud yn cyfrif.”