Ben Lake

190827_BENLAKE_810_5659.jpg

Manylion cyswllt

Bryndulais, 67 Heol y Bont, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7AB

[email protected]
01570 940333

facebook.com/BenLakeCeredigionPreseli
instagram.com/benmlake


Am Ben

Cafodd Ben Lake ei ailethol yn Aelod Seneddol Ceredigion ar 12 Rhagfyr 2019.

Ers cael ei ethol am y tro cyntaf yn 2017, mae Ben wedi ennill enw da fel ymgyrchydd lleol egnïol sy’n barod i weithio ar draws llinell plaid er budd ei etholaeth. Cafodd ei enwi’n ‘Politician to Watch’ yng ngwobrau ITV yn 2017, ac yn 2019 fe’i enwebwyd yn AS y Flwyddyn.

Mae wedi ymladd yn barhaus ar ran cymunedau Ceredigion ac wedi bod yn effeithiol yn lleol ac yn genedlaethol trwy gydweithio gyda grwpiau lleol ac ymgyrchu ar eu rhan yn San Steffan; mae tipyn wedi'i gyflawni ers cael ei ethol - sicrhau cyllid ar gyfer codiadau ym mhensiynau athrawon, £55 miliwn o fuddsoddiad ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru, gwrthdroi toriadau ‘Barclays’ i fancio gwledig, a sicrhau buddsoddiad i wella gwasanaeth ffôn symudol mewn ardaloedd heb signal ffôn.

Gallwch weld cofnod pleidleisio Ben yn theyworkforyou.com


Fideos