Buddugoliaeth Hanesyddol i Blaid Cymru yng Ngheredigion Penfro

Buddugoliaeth Hanesyddol i Blaid Cymru yng Ngheredigion Penfro

Mae Elin Jones AS, Kerry Ferguson AS, Anna Nicholl AS wedi'u hethol yn Aelodau Senedd Cymru newydd dros Geredigion Penfro.

Mewn diwrnod cyffrous yn hanes gwleidyddiaeth orllewin Cymru, enillodd Plaid Cymru dair o chwe sedd etholaeth newydd Ceredigion Penfro yn etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026 — y tro cyntaf i'r etholaeth hon bleidleisio dan y drefn newydd o gynrychiolaeth gyfrannol.

Daeth y cyfrif i ben ar 8 Mai, a chadarnhawyd bod Elin Jones, Kerry Ferguson ac Anna Nicholl wedi eu hethol yn Aelodau o'r Senedd dros Geredigion Penfro. Cipiodd Reform UK ddwy sedd, a Cheidwadwyr un sedd yn yr etholaeth newydd a grëwyd drwy gyfuno Ceredigion Preseli a Chanol a De Penfro.

Dyma ganlyniadau bras yr etholiad:

  • Plaid Cymru — [31,943 pleidlais / 35.8%] — 3 sedd
  • Reform UK — [23,003 / 25.8%] — 2 sedd
  • Ceidwadwyr — [14,789 / 16.6%] — 1 sedd

Dywedodd Elin Jones: "Rwy'n hapus iawn gyda'r canlyniad yng Ngheredigion Penfro, mae wedi bod yn etholiad ardderchog inni. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi ein cefnogi ni ym mhob cwr o'r etholaeth ac mi fydd hi'n anrhydedd i gynrychioli pawb yng Ngheredigion a Sir Benfro."

Mae Plaid Cymru Ceredigion Penfro yn ddiolchgar iawn i bawb a roddodd o'u hamser, eu hegni a'u hadnoddau i wneud y fuddugoliaeth hon yn bosib. I'r cannoedd o wirfoddolwyr a ganfasiodd strydoedd a lonydd cefn gwlad yn y glaw a'r haul — diolch. I'r cefnogwyr a roddodd yn ariannol i gynnal yr ymgyrch — diolch. Ac i bob aelod o'r gymuned a bleidleisiodd, gosododd placard, neu rhannodd neges ar y cyfryngau cymdeithasol — roedd eich cyfraniad chi'n bwysig iawn, diolch.

Edrychwn ymlaen at weithio'n galed dros holl gymunedau Ceredigion a Sir Benfro yn y Senedd.