Plaid Cymru yn cyflwyno strategaeth economaidd gryf

Plaid Cymru yn cyflwyno strategaeth economaidd gryf

Un o flaenoriaethau Plaid Cymru yw sicrhau economi sefydlog a chadarn i Gymru, ac mae ganddynt gynllun manwl i gefnogi busnesau Ceredigion a Penfro i ffynnu.

Mae strategaeth economaidd Plaid Cymru yn cynnig llwybr clir i adfywio ein heconomi leol drwy rymuso busnesau bach. Yn hollbwysig, gall newidiadau i drethi busnes a chynllunio roi bywyd newydd i’n stryd fawr a’n trefi gan leihau'r baich ar fanwerthwyr annibynnol a'i gwneud hi'n haws llenwi unedau gwag.

Dywedodd Kerry Ferguson, ymgeisydd Ceredigion Penfro:

‘Mae gormod o fentrau ledled Ceredigion a Sir Benfro yn gwynebu heriau i ganlyniad i strwythurau ariannu anheg a chefnogaeth cyfyngedig. Bydd ein cynllun i sefydlu asiantaeth datblygu genedlaethol a diwygio trethi busnes yn mynd i'r afael â'r rhwystrau hyn yn uniongyrchol.

Mae Plaid Cymru am weld siopau annibynnol, caffis a busnesau newydd yn ffynnu. Drwy fuddsoddi mewn cadwyni cyflenwi lleol a blaenoriaethu busnesau Cymru mewn caffael cyhoeddus, gallwn gadw’r cyfoeth o fewn  ein cymunedau a sicrhau twf cynaliadwy hirdymor. Fel perchennog busnes bach fy hun am y 13 mlynedd diwethaf, byddaf bob amser yn hyrwyddo ein busnesau anhygoel ac yn sicrhau bod eich lleisiau'n cael eu clywed yn y Senedd.’