Wrth i brisiau tanwydd gynyddu gyda rhai aelwydydd eisoes yn wynebu problemau cyflenwi oherwydd y rhyfel yn Iran, mae ymgeiswyr Plaid Cymru yn nodi’r ffyrdd y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cefnogi teuluoedd ledled Sir Benfro a Cheredigion gyda chostau byw.
Mae’r nifer uchaf o gartrefi oddi ar y grid nwy ym Mhrydain yng Ngheredigion Preseli, ac mae AS Plaid Cymru, Ben Lake, eisoes wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi cefnogaeth wirioneddol ac uniongyrchol ar frys i amddiffyn cartrefi gwledig sydd ddim ar y rhwydwaith nwy.
Wrth gwrs, dim ond cyfran o gostau aelwydydd yw’r costau ynni cynyddol. Mae costau gofal plant yng Nghymru ar hyn o bryd ymhlith yr uchaf yn y DU. Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn torri costau i deuluoedd drwy gyflwyno'r cynnig gofal plant mwyaf uchelgeisiol a hael yn hanes datganoli, gan helpu rhieni i arbed dros £30,000 yn ystod blynyddoedd cyntaf bywyd eu mab neu eu merch.
Byddai Llywodraeth Plaid Cymru hefyd yn ymrwymo i ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd mewn aelwydydd sy'n hawlio Credyd Cynhwysol, heb unrhyw derfyn incwm, o fis Medi 2026. Byddai hefyd yn helpu aelwydydd i dorri biliau ynni cartrefi drwy raglen i wella cartrefi Cymru.
Fel dywedodd Ymgeisydd Plaid Cymru dros Sir Benfro a Cheredigion, Anna Nicholl:
“Byddai llywodraeth o dan arweiniad Plaid Cymru yn rhoi cefnogaeth go-iawn i deuluoedd yn Sir Benfro a Cheredigion. Rydym eisoes wedi nodi’r camau y byddem yn eu cymryd o fewn ein 100 diwrnod cyntaf mewn Llywodraeth pe bai Plaid Cymru yn cael ei hethol i lywodraeth yn etholiad mis Mai. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys cyflwyno cynlluniau i ehangu oriau gofal a ariennir i blant rhwng 9 mis a 2 flwydd oed, ehangu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgol uwchradd mewn angen, a gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi i fwy o aelwydydd, yn gynt.”