Trigolion Ceredigion Penfro, rydych chi'n haeddu gwell

Trigolion Ceredigion Penfro, rydych chi'n haeddu gwell

Mae dros 620,300 o bobl yng Nghymru yn aros am driniaeth ar y GIG. Mae'r GIG yng Nghymru wedi cael ei redeg gan Lafur am y 25 mlynedd diwethaf. Mae'n bryd dechrau o'r newydd.

Pe bai Llywodraeth Plaid Cymru y flwyddyn nesaf, o fewn yr ychydig ddyddiau cyntaf, byddai Plaid Cymru yn cyflwyno canolfannau triniaeth leol dros dro mewn ysbytai presennol i gael pobl ar restrau aros yn cael eu trin yn gyflymach. Byddai hefyd yn sicrhau bod byrddau iechyd yn cydweithio'n strategol er mwyn gwneud gwell ddefnydd o adnoddau presennol, sicrhau gwasanaethau mwy effeithlon a lleihau amseroedd aros i gleifion.

Nid yw technoleg yn cael ei defnyddio cymaint ag y gallai yng Nghymru chwaith i helpu cleifion i reoli eu cyflyrau a galluogi meddygon i fonitro cleifion o bell.

Fel y dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru Ceredigion Penfro, Kerry Ferguson:

“Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o’r anawsterau sydd i gael apwyntiad gyda meddygon teulu, a’r amser aros hir sydd i dderbyn triniaeth ar hyn o bryd. Plaid Cymru yw’r unig blaid sydd wedi llunio atebion parod yn ofalus a fyddai’n lleihau’r amseroedd aros presennol ac yn dod â manteision hirdymor i’n gwasanaeth iechyd sydd ar chwâl.”