Mae un o bob tri o’n plant yn cael eu magu mewn tlodi, ac mae rhagamcanion cyfredol yn dangos bydd gan Gymru’r gyfradd tlodi plant uchaf o unrhyw ranbarth neu genedl yn y DU erbyn 2029. Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cyflwyno taliad i gynnal teuluoedd a chefnogi cymunedau.
Byddai’r taliad ‘Cynnal’ yn fudd-dal uniongyrchol wythnosol i gefnogi’r rhai sydd ei angen fwyaf, gan adlewyrchu taliad plant llwyddiannus yr Alban. Datgelodd dadansoddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree mai’r Alban yw’r unig ran o’r DU lle rhagwelir y bydd cyfraddau tlodi plant yn gostwng erbyn 2029 – o ganlyniad uniongyrchol i Daliad Plant yr Alban.
Fel y dywedodd ymgeisydd Senedd Plaid Cymru Sir Benfro, Anna Nicholl:
“Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi cael sgyrsiau gwych gyda thrigolion Dinbych-y-pysgod, Solfach, Tyddewi, Aberdaugleddau, Wdig ac Abergwaun. Rydym wedi clywed yn uniongyrchol gan deuluoedd a allai elwa o’r taliad Cynnal y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn dechrau ei weithredu yn syth ar ôl yr etholiad yng Nghymru. Gallai’r polisi fod yn allweddol i fynd i’r afael â’r 30.8% o blant sy’n byw mewn tlodi yn Sir Benfro. Rydym wedi gweld o lwyddiant prydau bwyd am ddim mewn ysgolion cynradd Plaid Cymru, gymaint mae’r mesurau hyn o gymorth i deuluoedd gyda chostau byw presennol.”
https://youtube.com/embed/x9copZquNew?si=g66bxsFoB3oUsmP4
Fel dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:
“Roeddwn i’n falch iawn o weld Plaid Cymru yn cyhoeddi polisi a fydd yn wirioneddol effeithiol wrth fynd i’r afael â’r pla tlodi plant sydd yn ein cymunedau. Ar ôl 26 mlynedd o ddiffyg gweithredu gan Lafur yng Nghymru, a 14 mlynedd o lymder o dan y Torïaid – sydd bellach yn parhau gan lywodraeth Lafur y DU – dim ond Plaid Cymru sy’n dangos y dewrder gwleidyddol i allu rhoi i’n plant y dechrau teg mewn bywyd y maen nhw i gyd yn ei haeddu.”