
7 Mai 2026
Mae'n amser am newid.
Mae Plaid Cymru yn cynnig arweinyddiaeth newydd, tegwch, a llywodraeth sy'n sefyll dros Gymru.
Mi fydd newid i ffiniau'r etholaeth yn etholiad y Senedd, a bydd trigolion Ceredigion a Sir Benfro'n cael eu cynrycholi gan chwech Aelod Seneddol dros Geredigion Penfro.
Dyma eich ymgeiswyr Plaid Cymru chi:
5. Colin Nosworthy 6. Clive Davies 7. Owain Jones
1. Elin Jones yw Aelod Senedd presennol Ceredigion ac mae wedi gwasanaethu’r etholaeth ers 1999. Dywed Elin:
“Mae’r etholaeth newydd yn cwmpasu Ceredigion a Sir Benfro gyfan. Fel Rhif 1 ar restr Plaid Cymru, rwy’n awyddus i fod yn llais cryf dros orllewin Cymru – ac i sicrhau bod ein GIG a’n gwasanaethau cyhoeddus, a’n heconomi yn cael y flaenoriaeth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt.”
2. Mae Kerry Ferguson yn berchennog busnes llwyddiannus ac yn gyn-faer Aberystwyth, lle mae’n byw, yn gweithio ac yn weithgar iawn yn y gymuned.
3. Mae Anna Nicholl yn byw ym mro ei mebyd yn Aberteifi. Cafodd Anna yrfa lwyddiannus ym myd polisi cyhoeddus yng Nghymru am dros 25 mlynedd, a bu’n gweithio gydag aelodau llywodraeth Plaid Cymru, gan gynnwys Elin Jones.
4. Mae Cris Tomos yn gyn-aelod cabinet ar Gyngor Sir Penfro. Yn ei waith, mae Cris yn creu prosiectau ynni gwyrdd a chymunedol sydd wedi denu cyllid sylweddol i rannau o Sir Benfro.
Pam pleidleisio Plaid Cymru? Gwyliwch y fideo yma
