Etholwyd Billy Shaw yn Gynghorydd Gogledd Ddwyrain Abergwaun, gan ddod yn drydydd cynrychiolydd Plaid Cymru ar Gyngor Sir Penfro.
Mae Plaid Cymru wedi ennill ward Gogledd Ddwyrain Abergwaun gyda buddugoliaeth sylweddol yn yr isetholiad. Daw'r canlyniad dri mis cyn etholiadau allweddol y Senedd ac mae'n dangos lefelau cynyddol o gefnogaeth i'r blaid yn Sir Benfro.
Enillodd ymgeisydd Plaid Cymru, Billy Shaw, 253 o bleidleisiau – bron i ddwywaith pleidlais yr ymgeisydd Democratiaid Rhyddfrydol, Caleb Churchill gyda 135. Gorffennodd ymgeisydd Reform UK, Peter John yn drydydd gyda 95 pleidlais gyda Paul Howe o Lafur yn gorffen yn bedwerydd gydag 83 pleidlais (canlyniadau llawn isod).
Mae Billy yn ymuno â chynghorwyr Plaid Cymru, Rhys Sinnett a Michael Williams ar Gyngor Sir Penfro.
Dywedodd Billy Shaw;
"Hoffwn ddiolch i holl drigolion Gogledd Ddwyrain Abergwaun am fy ethol i'w cynrychioli fel eu Cynghorydd Sir. Rwy'n cymryd yr awenau ar ôl marwolaeth y cynghorydd blaenorol, Jordan Ryan, buodd ei farwolaeth yn sioc inni gyd. Roedd yn llysgennad ardderchog i Abergwaun. Nawr mae'r gwaith caled yn dechrau."
Dywedodd Elin Jones, AS Ceredigion a phrif ymgeisydd Plaid Cymru dros Geredigion, Penfro yn etholiad y Senedd;
"Mae Billy wedi bod yn llysgennad rhagorol i Abergwaun. Mae'n adnabod etholaeth Gogledd Ddwyrain Abergwaun yn drylwyr a bydd yn gweithio'n ddiflino, gydag angerdd ac uniondeb i wasanaethu ei gymuned.”
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth;
"Mae hon yn fuddugoliaeth fawr yn Sir Benfro i Billy Shaw – pencampwr cymunedol go iawn. Mae pleidlais dros weledigaeth gadarnhaol Plaid Cymru yn cynnig dechrau newydd i gymunedau ledled Cymru, ac mae'n bleidlais i atal Reform a'u gwleidyddiaeth rannol.
"Mae'n amlwg bod amser Llafur wedi dod i ben. Am rhy hir, maen nhw wedi gadael Cymru i lawr. Ar Fai 7fed, pleidleisiwch dros Blaid Cymru i sicrhau arweinyddiaeth newydd i Gymru."