Plaid Cymru i gynnal cyfarfod cyhoeddus am Ysbyty Llwynhelyg

Plaid Cymru i gynnal cyfarfod cyhoeddus am Ysbyty Llwynhelyg

Yn dilyn cyhoeddiad gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda mis diwethaf na fyddant bellach yn gwneud llawdriniaethau brys yn Ysbyty Llwynhelyg, bydd ymgeiswyr Plaid Cymru Ceredigion Penfro yn cynnal digwyddiad cyhoeddus ym Mhenfro.

 

Manylion y cyfarfod a RSVP

 

Bydd y digwyddiad am 6.30pm y 31 Mawrth yn neuadd bentref Treletert, yn rhoi cyfle i drigolion Sir Benfro rannu eu profiadau a’u gofidion am y penderfyniad diweddar i gael gwared â llawdriniaethau brys yn ysbyty Llwynhelyg.

Dywedodd Elin Jones, prif ymgeisydd Plaid Cymru dros Geredigion Penfro: ‘Mae Llwynhelyg yn ysbyty pwysig iawn i drigolion a chymuned Sir Benfro. Mae’r penderfyniad i beidio gwneud llawdriniaethau brys yno yn gwanhau gallu’r ysbyty yma i achub bywydau. Mae Plaid Cymru wedi bod yn gefnogwr cryf o ysbytai bach gwledig erioed, ym Mronglais a Llwynhelyg. Mae rhaid sicrhau bod ni’n gwarchod yr ysbytai yma fel gwasanaethau lleol cryf yn ein cymunedau. I wneud hynny mae’n rhain i ni wrthdroi'r penderfyniadau yma, a sicrhau bod y gwasanaethau achub bywyd hanfodol a thriniaethau arferol ar gael yn Llwynhelyg, i ddiogelu dyfodol yr ysbyty fel ysbyty cyffredinol lawn.’ 

Dywedodd Kerry Ferguson, ymgeisydd Plaid Cymru dros Sir Benfro: ‘Mae’n dda clywed bod y ddeiseb ar-lein yn galw am ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru i adfer llawdriniaethau brys yn Llwynhelyg wedi cyrraedd ei tharged, sy’n golygu bydd yn cael ei gyflwyno fel dadl ar lawr y Senedd. Rydym wedi ein siomi’n fawr gan benderfyniad y Bwrdd Iechyd i gael gwared â llawdriniaethau brys yn Llwynhelyg. Bydd yr amser teithio hirach i'r rheini sydd angen sylw meddygol brys yn peryglu bywydau. Rydym nawr angen ymyrraeth gan y llywodraeth i wrthdroi’r penderfyniad.’


Manylion y cyfarfod a RSVP