Plaid Cymru yn sicrhau mwy o gyllid i Sir Benfro

Plaid Cymru yn sicrhau mwy o gyllid i Sir Benfro

Yn dilyn cyllideb ddrafft Llywodraeth Lafur Cymru, mae Plaid Cymru fel yr wrthblaid wedi sicrhau bargen well i Gymru. Mae Cris Tomos, ymgeisydd Senedd Plaid Cymru dros Sir Benfro wedi croesawu'r cynnydd i setliad Gyngor Sir Benfro o 2.3% i dros 4%, a chyllid ychwanegol i'n GIG.

Byddai'r gyllideb ddrafft gwreiddiol fel y'i cyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur wedi gadael awdurdodau lleol yn wynebu diffyg sylweddol a allai fod wedi arwain at gynnydd mawr pellach yn nhreth y cyngor, colledion swyddi yn y sector cyhoeddus, a setliad GIG isel yn hanesyddol.

Camodd Plaid Cymru i mewn a gofyn am ddau beth - amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus ac atal cynnydd anfforddiadwy yn y dreth gyngor, a chywiro'r setliad GIG annigonol a achoswyd gan gyllideb drosglwyddadwy Llafur. Drwy ymatal yn gyfnewid am gyllidebau iechyd a chynghorau cynyddol, mae Plaid Cymru wedi sicrhau gwell dêl i wasanaethau cyhoeddus a threthdalwyr Cymru.

Dywedodd Cris Tomos, ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiad y Senedd dros Sir Benfro: “Mae’r cynnydd hwn yn y setliad i Gyngor Sir Benfro yn dod â rhywfaint o ryddhad i gyllidebau tynn y Cyngor ac i drethdalwyr lleol. Roedd y setliad gwreiddiol gynigwyd gan Lywodraeth Cymru i Gyngor Sir Benfro yn 2.3%. Fodd bynnag, diolch i’r cytundeb hwn a luniwyd gan Blaid Cymru, bydd y setliad bellach yn cynyddu i dros 4%. Bydd y cyllid ychwanegol i’r GIG o 3.6%, i fyny o’r 2.1% arfaethedig, hefyd yn helpu ein gwasanaethau iechyd sydd o dan straen mawr yma yn y gorllewin. Os gall Plaid Cymru gyflawni hyn fel gwrthblaid, dychmygwch beth allwn ni ei gyflawni wrth arwain Llywodraeth nesaf Cymru ym mis Mai – newid go iawn ac arweinyddiaeth newydd sy’n rhoi pobl Cymru yn gyntaf.”