Plaid Cymru yn siomedig gyda phenderfyniad y Bwrdd Iechyd am Lwynhelyg

Plaid Cymru yn siomedig gyda phenderfyniad y Bwrdd Iechyd am Lwynhelyg

Yn dilyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Hywel Dda’r bore yma i israddio llawdriniaethau cyffredinol frys yn Llwynhelyg, mae Ymgeisydd Plaid Cymru Kerry Ferguson yn galw ar y Bwrdd Iechyd i ailystyried.

Pleidleisiodd y Bwrdd Iechyd i israddio'r gwasanaeth llawfeddygaeth gyffredinol frys llawn presennol yn Ysbyty Llwynhelyg - gan gynnwys llawdriniaethau brys, i beidio â darparu unrhyw lawfeddygaeth gyffredinol frys yn yr ysbyty, ac yn hytrach, cryfhau'r ddarpariaeth Gofal Brys ar yr Un Diwrnod yno.

Dywedodd Kerry Ferguson, ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiad y Senedd dros Sir Benfro: “Rydym mor siomedig gyda phenderfyniad y Bwrdd Iechyd i gael gwared ar y gwasanaethau cyffredinol brys presennol o Llwynhelyg. Er bod y Bwrdd wedi ymrwymo i gynnal a chryfhau’r wasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod yno, bydd trigolion gorllewin Sir Benfro yn dal i wynebu o leiaf awr o daith i dderbyn llawdriniaethau brys neu driniaeth sylweddol.

Mae trigolion Sir Benfro yn iawn i deimlo’n bryderus am y penderfyniad, ac ynghylch y gwasanaethau y gallai Llwynhelyg eu colli, ac mae colli eu gwasanaethau cyffredinol brys yn ergyd enfawr.

Rwy’n galw ar y Bwrdd Iechyd i ailystyried eu penderfyniad ar frys, ac i ystyried yr oblygiadau llawn a’r risgiau bydd gweithredu opsiwn A yn ei chael ar drigolion Sir Benfro.”