Dyma ymgeiswyr Plaid Cymru Ceredigion Penfro ar gyfer etholiad Senedd 2026. Bydd y tîm yn cael ei arwain gan Elin Jones, ymgeisydd Rhif 1 Plaid Cymru.

1. Elin Jones yw Aelod Senedd presennol Ceredigion ac mae wedi gwasanaethu’r etholaeth ers 1999. Dywed Elin:
“Mae’r etholaeth newydd yn cwmpasu Ceredigion a Sir Benfro gyfan. Fel Rhif 1 ar restr Plaid Cymru, rwy’n awyddus i fod yn llais cryf dros orllewin Cymru – ac i sicrhau bod ein GIG a’n gwasanaethau cyhoeddus, a’n heconomi yn cael y flaenoriaeth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt.”
2. Mae Kerry Ferguson yn berchennog busnes llwyddiannus ac yn gyn-faer Aberystwyth, lle mae’n byw, yn gweithio ac yn weithgar iawn yn y gymuned.
3. Mae Anna Nicholl yn byw ym mro ei mebyd yn Aberteifi. Cafodd Anna yrfa lwyddiannus ym myd polisi cyhoeddus yng Nghymru am dros 25 mlynedd, a bu’n gweithio gydag aelodau llywodraeth Plaid Cymru, gan gynnwys Elin Jones.
4. Mae Cris Tomos yn gyn-aelod cabinet ar Gyngor Sir Penfro. Yn ei waith, mae Cris yn creu prosiectau ynni gwyrdd a chymunedol sydd wedi denu cyllid sylweddol i rannau o Sir Benfro.
5. Mae Colin Nosworthy yn Rheolwr Cyfathrebu ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn gyn-gyfarwyddwr cyfathrebu Plaid Cymru, gyda hanes o ymgyrchu dros annibyniaeth a’r Gymraeg.
6. Mae Clive Davies yn aelod cabinet Cyngor Sir Ceredigion gyda chyfrifoldeb dros yr economi a chynaliadwyedd, yn gweithio i hybu twf lleol a lleihau ôl troed carbon.