Wrth i’r maniffesto gael ei lansio, mae Plaid Cymru yn cadarnhau y bydd yn adolygu’r trothwy 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau, ac yn creu eithriadau cenedlaethol newydd clir a rhesymol lle na fyddai’r llety hwnnw’n gymwys fel cartref preifat.
Mae Plaid Cymru yn deall nad yw llawer o berchnogion busnesau llety gwyliau yng Ngheredigion a Sir Benfro yn gallu cyrraedd y 182 diwrnod yn flynyddol, oherwydd rhesymau y tu hwnt i'w rheolaeth fel y tywydd, ac mae hyn yn cael effaith sylweddol ar eu busnesau a'u hiechyd.
Byddai Plaid Cymru yn cyflwyno eithriadau cenedlaethol i sicrhau bod perchnogion busnesau llety gwyliau dilys yn cael eu trin yn deg a'u cefnogi i alluogi eu busnesau i lwyddo.
Dywedodd Kerry Ferguson, ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiad Senedd Ceredigion Penfro: “Fel perchennog busnes fy hun, rwy’n gwybod faint o bwysau ariannol y mae pob busnes bach yn ei wynebu ar hyn o bryd, a sut y gall hyn effeithio ar berchnogion, eu ffrindiau a’u teuluoedd. Rydym wedi clywed yn uniongyrchol gan lawer o berchnogion busnesau llety gwyliau wedi’u dodrefnu yng Ngheredigion a Sir Benfro y byddai gostwng y trothwy 182 diwrnod ar gyfer aros dros nos yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’w busnesau. Rwy’n falch bod Plaid Cymru wedi ymrwymo i adolygu’r rheol 182 diwrnod ar gyfer trethi annomestig yng Nghymru. Byddwn yn cyflwyno eithriadau cenedlaethol i geisio helpu busnesau dilys yr effeithir arnynt yn annheg gan y rheol 182, ac yn eithrio llety hunanarlwyo na ellir ei ddefnyddio ar y farchnad dai agored.”