
Ydych chi’n angerddol am wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich cymuned? Ydych chi eisiau bod yn lais dros bobl Cymru a helpu i lunio dyfodol disglair i’n cenedl?
Mae Plaid Cymru Ceredigion Penfro yn chwilio am ymgeiswyr brwdfrydig o bob cefndir i gynrychioli ein cymunedau ar Gynghorau Sir yn 2027. Bydd Plaid Cymru yn cynnig rhaglen gynhwysfawr i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd. I ddysgu mwy am y profiad o sefyll dros Blaid Cymru, darllenwch am brofiadau rhai o gyn-ymgeiswyr y Blaid yn Pam Sefyll dros Blaid Cymru?
Cofrestrwch heddiw i fynegi diddordeb mewn bod yn ymgeisydd dros Blaid Cymru - boed yng Ngheredigion neu yn Sir Benfro.